Mae adroddiad gan lywodraeth Cymru yn dangos pan fydd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar (ECPLC) o ansawdd uchel, gall lunio sgiliau iaith, datblygiad corfforol a chymdeithasol-emosiynol plant, a chanlyniadau hirdymor yn uniongyrchol. Mae'n arbennig o bwysig gwneud hyn yn iawn ar gyfer babanod a phlant iau a phlant sy'n tyfu i fyny mewn aelwydydd incwm isel.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ehangu ECPLC i bob plentyn o naw mis oed i’w groesawu. Ond mae sicrhau bod addysg o ansawdd uchel mewn lleoliadau gofal plant yn cael blaenoriaeth yn ystod y broses gyflwyno yn hanfodol os yw'r buddsoddiad hwn am gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i blant.
Ddydd Mercher 4 Tachwedd rhwng 12:00 a 13:00 GMT bydd Andy Regan, Pennaeth Nesta Cymru yn cadeirio panel arbenigol yn cynnwys Ellie Bristow, rheolwr cenhadaeth ar gyfer cenhadaeth Nesta o sicrhau dechrau teg, Steffan Evans, prif weithredwr Sefydliad Bevan, Catrin Edwards, prif weithredwr Mudiad Meithrin a Gail Bennett, rheolwr cymorth gwasanaethau blynyddoedd cynnar a theuluoedd Cyngor Sir y Fflint. Gyda'i gilydd byddant yn archwilio'r mewnwelediadau diweddaraf y maes gofal plant presennol yng Nghymru, gan archwilio'r risgiau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hyn a fwriedir ei gyflwyno.
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw weithiwr proffesiynol sydd â diddordeb mewn deilliannau plentyndod cynnar yng Nghymru. Efallai eich bod yn gweithio fel arweinydd strategol y blynyddoedd cynnar i awdurdod lleol, yn ddarparwr y blynyddoedd cynnar, yn academydd, yn ymchwilydd, neu'n luniwr polisi sydd â diddordeb yn y ffordd orau y gall polisi'r blynyddoedd cynnar gefnogi plant a theuluoedd.
Cofrestrwch i dderbyn manylion digwyddiadau, negeseuon atgoffa a dolenni ymuno yn syth i'ch mewnflwch.
A report from the Welsh Government shows that when early childhood play, learning and care (ECPLC) is of high quality, it can directly shape children’s language skills, physical and social-emotional development, and long-term outcomes. It is particularly important to get this right for babies and younger children and children growing up in low-income households.
The Welsh Government’s commitment to expanding ECPLC for all children from nine months old is welcome. But ensuring high-quality education in childcare settings is prioritised during rollout is essential if this investment is to deliver the best possible outcomes for children.
On Wednesday 4 November from 12:00-13:00 GMT Andy Regan, Head of Nesta Cymru will chair an expert panel including Ellie Bristow, mission manager of Nesta's fairer start mission, Steffan Evans, chief executive at Bevan Foundation, Catrin Edwards, chief executive at Mudiad Meithrin and Gail Bennett, early years and family service support manager at Flintshire Council. Together they will explore the latest insights into the current childcare landscape in Wales, examining both the risks and opportunities of the planned rollout.
This event is for any professional interested in early childhood outcomes in Wales. You might work as a strategic early years lead in a local authority, an early years provider, an academic, researcher, or a policymaker interested in how early years policy can best support children and families.
Register to receive event details, reminders and joining links straight to your inbox.