Peth cymhleth yw llywio syniadau newydd i ddwyn ffrwyth. Mae arloesi'n gymysgedd o greadigrwydd, egni, dealltwriaeth fasnachol a greddf. Rydym yn arbrofi ac yn profi i weld beth sy'n digwydd, gan adeiladu tystiolaeth wrth fynd yn ein blaen.
Byddwn yn creu'r amgylchedd i arloesedd ffynnu yn y DU drwy:
Meddwl chwilfrydig, bod yn fodlon cymryd risgiau ac ysbryd o fenter yw blociau adeiladu arloesedd. Rydym am i'r DU groesawu'r cysyniadau hyn, ac rydym yn gweithio i'w harddel ymhlith arloeswyr yfory.
Credwn fod arloesi ar ei gryfaf pan fydd pobl ddawnus o ddisgyblaethau gwahanol yn rhyngweithio. Mae angen mewnbwn creadigol ochr yn ochr â mewnwelediad busnes a dealltwriaeth ymarferol. Rydym yn gwneud i hynny ddigwydd.
Drwy drefnu bod arian ar gael gyda'r gefnogaeth gywir rydym yn helpu arloesedd i dyfu. Yn 2004-5 gwnaethom fuddsoddi mwy na £23 miliwn mewn arloesedd. Mae ein modelau buddsoddi'n annog eraill i fuddsoddi'n fwy parod - am bob £1 gwnaethom ni ei buddsoddi, buddsoddodd eraill £5.
Mae syniad neu fodel busnes ond cystal â'i gymhwysiad masnachol. Ar gyfer arloesedd cymdeithasol mae angen i syniadau dewr ac ymarferoldeb weithio ochr yn ochr. Rydym yn datblygu ac yn annog y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r medrau mae ar bobl eu hangen i gymryd syniad i'w wneud yn llwyddiant