Asiant blaenllaw ar gyfer gweddnewid arloesedd yn y DU yw NESTA. Ni yw’r gwaddoliad unigol mwyaf yn y DU sy’n ymroi’n unswydd i arloesedd. Mwy am NESTA.
Rydym yn defnyddio’n gwaddoliad cenedlaethol unigryw i fuddsoddi mewn busnesau cyfnod cynnar, llywio polisi o arloesi ac annog diwylliant o fentergarwch. Ein nod yw gweddnewid gallu’r DU o ran arloesi.
Mae gennym arian gwaddoledig o fwy na £300m oddi wrth y Loteri Genedlaethol. Defnyddiwn y llog o’n gwaddoliad, yr enillion o’n buddsoddiadau, a ffynonellau incwm cyhoeddus a phreifat eraill i ariannu’n gweithgareddau.
Nid ydym yn derbyn unrhyw arian cyffredinol y llywodraeth i gefnogi’n gwaith, er bod rhai adrannau’n darparu cyllid neu’n contractio gyda ni am brosiectau penodol.
Mae NESTA yn cael ei lywodraethu gan fwrdd ymddiriedolwyr sy’n pennu’n cyfeiriad strategol, ein polisïau a’n gweithdrefnau. Mae ein hymddiriedolwyr yn atebol i’r senedd a’r Llywodraeth.
Mae ein gwaddoliad cenedlaethol ni’n gadael i ni fabwysiadu ymagwedd unigryw. Mae’n rhoi annibyniaeth i ni, incwm gwarantedig ac, o ganlyniad, mwy o hyblygrwydd a gwreiddioldeb i’n gwaith. Mae’n golygu bod modd i ni:
fuddsoddi yn y cyfnod cynharaf un o dwf cwmni achos nid oes arnon ni’r un pwysau am elw cyflym;
llunio polisïau arloesi i helpu’r DU i fodloni heriau arloesi cenedlaethol yr 21ain ganrif;
rhoi ymagweddau newydd ar waith at ysgogi arloesedd o amgylch y DU.
Beth yw hanes llwyddiannau NESTA?
Ers ein cychwyn ym 1998, rydym wedi cyflawni llawer i ymfalchïo ynddo:
mae NESTA wedi buddsoddi mwy na £105 miliwn mewn arloesedd yn y DU.
mae NESTA wedi dod yn un o ffynonellau mwyaf cyfalaf cyfnod cynnar yn y DU, gan fuddsoddi £10 miliwn bob blwyddyn ar hyn o bryd.
Ers 2003, mae pob £1 mae NESTA wedi’i buddsoddi mewn cwmnïau cyfnod cynnar wedi denu dros £5 mewn cyfalaf preifat.
Mae NESTA wedi gwneud mwy na 1000 o fuddsoddiadau a dyfarniadau.
Mae llawer o fentrau NESTA wedi’u mabwysiadu neu eu huwchraddio gan eraill ar ôl i ni brofi eu llwyddiant. Fel Futurelab a Planet Science.
Mae ein canfyddiadau a’n hargymhellion ni wedi siapio polisi’r llywodraeth.
Pam ydyn ni’n newid?
Yn 2005/6 cyrhaeddwyd cerrig milltir arwyddocaol yn NESTA. Daethom i ben ein cyfnod ffurfiannol, ac enillon ni arweinyddiaeth newydd gyda Jonathan Kestenbaum yn ymuno fel ein prif weithredwr. Hefyd cawsom hwb o £75 miliwn i’n gwaddoliad. Dyna pam rydym wedi treulio’r misoedd diwethaf yn pwyso a mesur, yn adolygu’n gweithgareddau, ac yn tynnu’r hyn rydym wedi’i ddysgu ynghyd.
Erbyn hyn rydym mewn cyfnod o gynnydd newydd. Bydd ein hymagwedd newydd yn canolbwyntio ar:
Rydym yn cefnogi unigolion a chwmnïau arloesol sydd â syniadau addawol.
Rydym yn gweithio ar draws gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau – neu wrth y gyffordd lle mae’r disgyblaethau hyn yn cwrdd.
Sut all NESTA helpu’r DU?
Rydym yn meithrin arloesedd mewn tair ffordd:
Mae cymorth busnes yn hanfodol bwysig i fentrau llwyddiannus ddenu buddsoddiad preifat pellach. Dyna pam rydym yn ategu cefnogaeth ariannol â chymorth masnachol fel mentora, cynllunio busnes, ymchwil yn erbyn y farchnad a hyfforddiant medrau busnes. Hefyd gallwn gysylltu cwmnïau’n portffolio â rheolwr rhan amser neu eu rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwyr sy’n gallu rhoi cyngor iddynt ar unrhyw beth o eiddo deallusol i negodiadau trwyddedu.
Yn bwysicaf oll, rydym yn llwyddo i ddenu cyfalaf preifat sylweddol ar sail ein gwaddoliad ni.
Rydym yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn cwmnïau cyfnod cynnar a seilir yn y DU sydd â thechnolegau arloesol. Edrychwn am gwmnïau sydd â’r potensial i greu elw masnachol sylweddol. Rydym yn buddsoddi mewn cwmnïau’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gronfeydd trydydd parti. Mwy o wybodaeth.
Am fwy o wybodaeth am NESTA a’n gwaith, cyfeiriwch at ein cyfarwyddiadur cysylltiadau.