Mae bod yn waddoliad a ariennir yn gyhoeddus yn ein gwneud ni'n unigryw.
Cawn gymryd risgiau gwybodus pan fydd eraill efallai'n ymatal. Ein diddordeb ni yw potensial, cynaladwyedd a thwf busnes neu fodel, nid elw cyflym.
Mae rhai pobl yn ddawnus iawn ym maes polisi, mae gan rai syniadau newydd gwych. Mae eraill yn dda wrth wneud i arloesi ddwyn ffrwyth. Rydym yn cysylltu'r bobl hyn â chyrff a rhwydweithiau er mwyn adeiladu partneriaethau grymus i gryfhau a meithrin arloesedd yn y DU.
Credwn fod arloesi'n ffynnu pan fydd disgyblaethau'n dod ynghyd, nid pan fyddant yn ynysu eu hunain. Rydym yn gweithio i gynyddu'r cyfleoedd i wyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau ategu a bwydo oddi ar ei gilydd.
Mae modd i ni siarad dros y DU, heb unrhyw duedd ranbarthol, wleidyddol na sectorol. Rydym nid yn unig yn rhoi cefnogaeth ymarferol i dimau a chyrff, ond hefyd mewn sefyllfa i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol.