Cymraeg

Cymraeg

Ni yw'r Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau - corff uchelgeisiol sydd â diben eglur iawn. Credwn yn angerddol y gall y DU arwain y byd ym maes cymhwyso gwybodaeth, menter a chreadigrwydd. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddatblygu strategaethau a fydd yn gweddnewid gallu'r DU i arloesi.

  • Pam? Achos arloesedd sy'n ysgogi cynnydd economaidd a chymdeithasol.
  • Mae arloesi'n gwella ansawdd bywyd pobl drwy greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, eu gwella a'u gwneud yn fwy fforddiadwy.
  • Mae arloesi'n arwain at ddiwydiannau a marchnadoedd newydd sy'n symbylu creu cyfoeth a swyddi.
  • Mae ein byd ni'n newid yn gyflym. Mae arloesi'n annog yr agweddau a'r ymddygiadau a fydd yn helpu i ddatrys yr heriau cymdeithasol ac amgylcheddol a wynebwn yn yr 21ain ganrif.

Ein her

Rhaid i'r DU arloesi i gystadlu a chyfrannu ar raddfa fyd-eang. Mae'r DU yn enwog am ei dyfeisgarwch, ond mae'n llai llwyddiannus wrth wneud i'r syniadau gwych ddwyn ffrwyth masnachol. Mae diffyg diwylliant ganddi sy'n cefnogi cymryd risg ac yn annog ysbryd menter.

Ein hatebion

  • Rydym yn gweithredu'n gatalydd i ysgogi newid.
  • Rydym yn datblygu medrau, gwybodaeth ac agweddau arloeswyr yfory.
  • Rydym yn helpu i lunio polisïau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n cefnogi ac yn annog arloesi.
  • Rydym yn creu modelau a mentrau i brofi a chyflwyno'r arferion gorau wrth arloesi.
  • Rydym yn ariannu ac yn cefnogi busnesau arloesol yn eu cyfnod cynnar.