Our Work

Cynghorau Creadigol

Ailystyried rôl byd llywodraeth leol

20fed Mehefin yw'r dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau i Raglen y Cynghorau Creadigol bellach.  Mae'r rhaglen wedi ennyn llawer o ddiddordeb ledled Cymru a Lloegr ac rydyn ni wedi cytuno i roi rhagor o amser i'r cynghorau fel y gallan nhw lunio a chyflwyno eu syniadau mwyaf uchelgeisiol a thrawsffurfiol.

Bydd dyddiadau eraill yn y rhaglen yn newid, hefyd:

  • Fis Gorffennaf, byddwn ni'n dewis hyd at 20 cyngor a gofyn iddyn nhw fireinio eu syniadau i'w lledaenu ymhlith y cynghorau eraill.
  • Ddechrau 2012, byddwn ni'n dewis tua 5 syniad ac iddyn nhw'r posibiliadau mwyaf ac yn rhoi cymorth penodol i'w datblygu hyd wanwyn 2013.

Mae'r wybodaeth am y rhaglen, y cwestiynau sy'n codi'n aml a'r telerau a'r amodau wedi'u newid i adlewyrchu'r dyddiadau hynny.

Beth yw hyn?

Mae Cynghorau Creadigol yn rhaglen newydd gan NESTA, ar y cyd â Chylch Byd Llywodraeth Leol, i gynorthwyo cynghorau i feithrin a gweithredu syniadau arloesol fydd yn datrys problemau’r dyfodol.

Dros y ddwy flynedd nesaf, ein nod yw cydweithio â chylch dethol o gynghorau creadigol ac arloesol a’u partneriaid ledled Cymru a Lloegr i feithrin, gweithredu a lledaenu dulliau newydd ac arloesol i fynd i’r afael â rhai o brif anawsterau cymunedau a gwasanaethau lleol yn y tymor canolig a’r tymor hir.

Pwysigrwydd y rhaglen

Fel cam cyntaf, rydyn ni’n gwahodd syniadau o bob math. Hoffen ni glywed gan gynghorau yng Nghymru a Lloegr sy’n rhannu ein huchelgais ac sydd â’r weledigaeth i drawsnewid maes penodol sy’n bwysig i’w cymunedau.

Ym mis Mehefin, byddwn yn dewis hyd at 20 o’r syniadau mwyaf addawol. Bydd y rhain yn cael arian a chymorth ymarferol i ddatblygu eu syniadau er mwyn i feysydd eraill allu manteisio arnyn nhw. Yn hydref 2011, byddwn yn dewis y pum syniad mwyaf addawol i roi rhagor o gymorth penodol iddyn nhw i roi eu syniadau newydd ar waith. 

Ar ddechrau’r rhaglen, mae Cynghorau Creadigol yn rhagdybio’r canlynol:

  • Yn ogystal â’r sefyllfa ariannol sydd ohoni, mae cymunedau a gwasanaethau lleol yn wynebu anawsterau cynyddol a mwy cymhleth na all dulliau traddodiadol eu datrys ar eu pen eu hunain
  • Byd llywodraeth leol sy’n gyfrifol ac sy’n gallu arwain y camau trawsnewid sydd eu hangen drwy ddod â gwahanol bartneriaid a chymunedau ynghyd i greu ffyrdd tra gwahanol o fodloni anghenion cymdeithasol
  • Nid yw paratoi atebion ar gyfer un maes yn ddigon. Rhaid dyblygu, addasu a rhannu dulliau llwyddiannus yn well rhwng meysydd sy’n wynebu’r un anawsterau

rhagor o wybodaeth (PDF 337Kb)

Gwestiynau cyffredin (PDF 380Kb)

Amodau a thelerau (PDF 215Kb)

Llenwch ein ffurflen gais ar-lein

Creative Councils